HAELIONI Naomi Lethbridge
14 April 2010Mae’r oriel yn ail-agor yn dilyn llifogydd mis Tachwedd gyda sioe o waith newydd Naomi Lethbridge, artist Albanaidd sydd wedi ymgartrefu ym Manceinion.
Gyda mewnosodiad sy’n iasol ddwyn i gof ffawd ddiweddar yr oriel, bydd yr artist yn arddangos gwaith sy’n ymdrin â’r themau o ddigonedd a gormodedd, o ran y pynciau a’r dulliau a ddefnyddir. Mae’r gwaith yn archwilio’r digonedd a sbardunodd ymerodraeth, ehangu, cynnydd a rhyfeloedd, a’r gostyngiad o’r helaethrwydd hynny i nwyddau a gwrthrychau dibwys.

english
cymraeg