You are all cordially invited…

… to the launch of bocs, and of course, for our Christmas bash/exhibition.

Feel free to print out one of these invites and bring them along to our private view. (Right-click the image and click “Save target as”.) Although you’d probably still get in even if you didn’t have one.

christmas bocs nadolig
(arddangosfa o ddewis aelodau bocs)
Arddangosfa arbennig i ddathl lansio bocs @ ORIEL DAFYDD HARDY

Agoriad Preifat
5ed Rhagfyr 18:00 - 21:00

Yna ar agor i’r cyhoedd … 06/12/08 - 09/01/09

Arlunwyr yn Dangos

Ar ran Oriel Dafydd Hardy hoffwn eich gwahodd i agoriad preifat christmas bocs nadolig. Dyma arddangosfa arbennig o ddewis yr aelodau i ddathlu lansio ‘bocs’, ein menter cydweithredol i artistiaid ifanc ar Nos Wener 5ed Rhagfyr.

Criw o artistiaid ifanc o feysydd celf gweledol, cerdd a pherfformio sy’n ffurfio sylfaen y grŵp. Amcan y grŵp yw sefydlu canolbwynt fydd yn sbarduno rhagoriaeth mewn celf ifanc gyfredol.

I roi rhywfaint o’r hanes i chi: Yn 2006 penderfynodd Dafydd Hardy a’i gyd gyfarwyddwr, Richard Thomas, droi seler y swyddfeydd ar y Maes yn oriel er mwyn atal y llif o raddedigion celf ifanc sy’n gadael yr ardal, trwy ddarparu canolfan i arddangos eu gwaith a chyfnewid syniadau.

Wrth graidd y fenter gydweithredol hon i artistiaid ifainc y mae arlunwyr sydd eisioes wedi arddangos yn Oriel Dafydd Hardy ac/neu aelodau craidd. Nhw yw sefydlwyr mudiad celfyddydol y dyfodol yng Ngwynedd.

Bydd bocs yn unigryw oherwydd bydd y grŵp yn cael ei sefydlu a’i redeg gan yr artistiaid ifainc – bydd yn rhoi rheolaeth i’r aelodau dros eu gyrfaoedd ei hunain, a theimlad o ddylanwad dros dwf a chyfeiriad eu tref a’r ardaloedd cyfagos.

Gweithgaredd gyntaf aelodau bocs yw dewis artistiaid y meant yn eu parchu, ac y mae ganddynt ddiddordeb eu gweld ar waliau Oriel Dafydd Hardy.

Bedwyr Williams fydd yn agor yr arddangosfa, a bydd bocs ei hun yn cael ei lansio gan Gadeirydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Evie Morgan Jones.

Bydd y drysau ar agor rhwng 6 a 9 yh a bydd disgwyl mynd ati â’r areithiau tua 6.30-6.45yh. Rwy’n mawr obeithio y gallwch ddod!

Glenys Davies (Curadur)

Tags: , , , ,

2 Responses to “You are all cordially invited…”

  1. bocs » Blog Archive » art pickup Says:

    [...] gallery « You are all cordially invited… Sevan’s work goes on bocs [...]

  2. bocs » Blog Archive » bocs choice - Paul Johnson Says:

    [...] Johnson is Yvonne Tsang’s choice for the christmas bocs nadolig [...]

Leave a Reply