Posts Tagged ‘Ysgol Pendalar’

Llais Yr Ifainc

14 June 2010


Llais yr Ifainc

Mae’r prosiect hwn yn bartneriaeth rhwng yr Academi, Cyngor Gwynedd ac Oriel Dafydd Hardy i ddathlu’r Maes newydd yng Nghaernarfon. Roedd Llais yr Ifanc yn gyfle i blant lleol fynegi eu teimladau am y datblygiad newydd hwn yn eu tref drwy weithdai gyda’r prifardd, Meirion Macintyre Huws. Dyma’r ysgolion a gymerodd ran yn y prosiect: Syr Hugh Owen , Hendre, Maesincla, y Gelli, Santes Helen a Pendalar.

Dywedodd Gwen Lasarus, Hyrwyddwr Llenyddiaeth Gwynedd:
‘Rwy’n falch iawn o gael gweld ffrwyth gwaith ysgrifennu creadigol y plant ar ffurf posteri gyda gwaith celf artistiaid lleol yn cael ei gyflwyno i’r plant o bob ysgol. Bydd y plant yn cofio’r profiad hwn am amser maith.’

Cafodd aelodau bocs eu gwahodd i drawsgrifio cerddi’r plant yn bosteri.